Dyddiad: Dydd Mawrth 16eg a Dydd Mercher 17eg Chwefror 2010
Man Cyfarfod : Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd
Nodau’r Seminar
Gan adeiladu ar lwyddiant y gynhadledd Gorffennol Digidol gyntaf yn Aberystwyth, bydd Gorffennol Digidol 2010 yn cynnig deuddydd o ddigwyddiadau a gynhelir yn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan ac o’u hamgylch. Cyfunir papurau cynhadledd, seminarau a sesiynau hyfforddi ymarferol i ymdrin â’r technegau arolygu a dehongli diweddaraf ac â’u cymhwyso’n ymarferol at ddehongli ac addysgu am dreftadaeth.
Bydd y gynhadledd yn apelio at bawb sy’n gweithio yn y sector archaeolegol, y sector treftadaeth, y sector dehongli a sector yr amgueddfeydd. Bydd y gweithdai’n fodd i gael hyfforddiant ymarferol gan yr arbenigwyr mewn trin cymwysiadau meddalwedd, GIS, sganio â laser a thechnegau arolygu a delweddu eraill.
Sesiynau
- Defnyddio technoleg ddigidol ym maes dehongli gan amgueddfeydd. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Methodolegau archwilio ar y cyd. Sefydliad Ludwig-Boltzmann ar gyfer Archwilio Archaeolegol ac Archaeoleg Rithwir, Vienna
- Gwella’r Profiad o Dreftadaeth drwy gyfrwng Realiti Acwstig ac Ymchwil Sain. Prifysgol Caerefrog
- Arfau ac arbenigedd ar gyfer ffurfio casgliadau 3D. Prifysgol Brighton
- LIDAR. English Heritage
- Delweddu llong ganoloesol Casnewydd drwy gofnodi mewn 3 dimensiwn. Prifysgol Llanbedr Pont Steffan
- Realitïau gwahanol wrth adlunio tai crwn o’r Oes Haearn. Prifysgol Bangor a CBHC
- Sganio â Laser. Leica ac English Heritage
- Gwybodaeth ryngweithiol mewn amgylcheddau treftadaeth. Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan a CBHC
Mae’r sefydliadau canlynol wedi cadarnhau’r sesiynau gweithdy ymarferol:
See3D Aberystwyth; Technium CAST Bangor; CBHC; Leica Geosystems; Asiantaeth yr Amgylchedd, Geomatics Group; Archaeophysica.
Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar.
Yr amserlen i’w chadarnhau...




